Job 6

Job yn cwyno fod Duw wedi ei daro

1A dyma Job yn ateb:

2“Petai fy rhwystredigaeth yn cael ei bwyso,
a'm helyntion yn cael eu rhoi mewn clorian,
3bydden nhw'n drymach na holl dywod y môr!
Dim syndod fy mod i wedi siarad yn fyrbwyll!
4Mae saethau'r Duw Hollalluog yn fy nghorff,
ac mae fy ysbryd wedi sugno eu gwenwyn.
Mae'r dychryn mae Duw yn ei achosi
fel rhes o filwyr yn ymosod arna i.
5Ydy asyn gwyllt yn nadu pan mae ganddo laswellt?
Ydy ychen yn brefu pan mae ganddo borfa?
6Ydy bwyd di-flas yn cael ei fwyta heb halen?
Oes blas ar y gwynwy?
7Dw i'n gwrthod eu cyffwrdd nhw;
maen nhw'n gwneud i mi fod eisiau chwydu.

Job yn anobeithio

8O na fyddwn i'n cael fy nymuniad,
a bod Duw yn rhoi i mi beth dw i eisiau.
9O na fyddai Duw yn fodlon fy lladd fel pryf,
trwy godi ei law a'm taro i lawr!
10Faint bynnag o boen fyddai'n rhaid i mi ei ddiodde,
byddai'n gysur i mi
fy mod heb wrthod geiriau'r Un Sanctaidd.
11Does gen i mo'r cryfder i ddal ati;
beth ydy'r pwynt o aros yn fyw?
12Oes gen i gryfder fel y graig?
Oes gen i gnawd fel pres?
13Y gwir ydy, does gen i ddim nerth o gwbl!
Alla i wneud dim i helpu fy hunan.

Job wedi ei siomi yn ei ffrindiau

14Dylai rhywun sy'n anobeithio gael ffrindiau sy'n ffyddlon,
hyd yn oed os ydy e'n troi ei gefn ar yr Un sy'n rheoli popeth;
15Ond alla i ddim dibynnu o gwbl arnoch chi, frodyr!
Dych chi fel sychnant lle roedd dŵr yn gorlifo ar un adeg.
16Fel ffrwd sy'n dywyll o dan rew
ac wedi ei chuddio o dan eira;
17ond cyn gynted ag y mae'n meirioli mae'n sychu
– yn y gwres tanbaid mae hi'n diflannu.
18Mae carafanau camelod yn gadael eu llwybr,
ac yn troi am y tir anial, ond mae'r ffrwd wedi mynd.
19Mae carafanau Tema yn chwilio am y dŵr,
a marchnatwyr Sheba
6:19 Tema … Sheba Tema: gogledd-orllewin Arabia; Sheba: de-orllewin Arabia.
yn gobeithio dod o hyd iddo.
20Maen nhw mor hyderus, ond byddan nhw'n cael eu siomi;
byddan nhw'n cyrraedd y lle, ac yn sefyll yno'n syfrdan.
21Ac felly dych chi! Fel nant wedi sychu, yn dda i ddim!
Dych chi'n gweld fy helynt, ac yn cael eich dychryn.
22Ydw i wedi dweud, ‘Rhowch rodd i mi!’
neu, ‘Talwch gildwrn drosto i o'ch cyfoeth’?
23‘Achubwch fi o afael y gelyn!’
neu, ‘Rhyddhewch fi o afael y gormeswyr!’?

Job yn mynnu ei fod yn ddieuog

24Dangoswch i mi beth wnes i, a bydda i'n tewi;
Esboniwch i mi beth wnes i o'i le!
25Mae geiriau gonest yn gallu bod yn greulon!
Ond beth mae'ch cerydd chi yn ei brofi?
26Ydy hi'n iawn i chi geryddu â'ch geiriau
wrth gyhuddo dyn diobaith o siarad gwag?
27Mae fel gamblo gyda bywyd yr amddifad,
neu roi bywyd eich cyfaill ar ocsiwn!
28Nawr dewch! Edrychwch arna i!
Fyddwn i'n dweud celwydd yn eich wynebau chi?
29Dewch! Plîs peidiwch bod mor annheg!
Meddyliwch eto! Mae fy ngonestrwydd i yn y fantol.
30Na, dw i ddim yn dweud celwydd,
a dw i'n gwybod y gwahaniaeth rhwng drwg a da.
Copyright information for CYM